Cyflwyniad

1.        Rondo Media yw un o’r prif gwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Caernarfon a Phorthaethwy. Mae’r cwmni yn cynhyrchu cynnwys drama, chwaraeon, cerddoriaeth, digwyddiadau, ffeithiol ac adloniant. Mae gan Rondo adnoddau ôl-gynhyrchu yng Nghaernarfon a chanolfan ôl-gynhyrchu yng Nghaerdydd sy’n ehangu ar hyn o bryd i gartrefu cyfres 40 awr ar gyfer amserlen ‘daytime’ Channel 4. Mae gan Rondo ddwy stiwdio yng Nghaernarfon, ar gyfer ein harlwy chwaraeon (Sgorio a Clwb) a hefyd ar gyfer rhaglenni ffeithiol ac adloniant. Mae’r gyfres ddrama Rownd a Rownd, a ddarlledir S4C ddwywaith yr wythnos, yn cael ei chynhyrchu yn ein canolfan ym Mhorthaethwy.

2.        Mewn partneriaeth â Disney, cynhyrchwyd Frozen at Christmas gan ein is-gwmni, Yeti Media, sy’n canolbwyntio ar ennill comisiynau rhwydwaith y tu allan i Gymru, yn ogystal â’r cyd-gynhyrchiad Find it, Fix it, Flog it sy’n cael ei ddarlledu yn ystod y dydd.  Mae arlwy pêl-droed Rondo wedi cynnwys gemau rhyngwladol Cymru, Uwch Gynghrair Cymru, Cwpan yr FA a gemau Tlws yr FA yn ogystal â gemau rhagbrofol Ewropeaidd Abertawe.

3.        Mae cynyrchiadau Rondo wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys gwobrau Broadcast a’r Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) am y ddrama The Indian Doctor ar BBC One. Yn 2016, enillodd Rondo wobr Bafta Cymru am y Rhaglen Adloniant orau (Les Misérables: The Journey) a’r Darllediad Allanol Gorau (Côr Cymru). Cynhyrchodd Rondo y darllediad o waith comisiwn Karl Jenkins ar gyfer S4C i nodi hanner can mlynedd trychineb Aberfan. Darlledwyd Cantata Memoria ar S4C, BBC Cymru, BBC Four, BBC Radio Wales a Classic FM. Yng ngwobrau Rhaglenni Dogfen Annibynnol Rhyngwladol Hollywood 2017, enillodd y rhaglen ddogfen am Philip Jones Griffiths, y ffotograffydd rhyfel yn Fietnam, a gyd-gynhyrchwyd gan JTV yn Ne Corea.

4.        Mae Rondo yn aelod o Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), y sefydliad masnach ar gyfer y sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru. Mae Rondo hefyd yn aelod o PACT.

Beth yw cyllid digonol ar gyfer y sianel? Er enghraifft, pwy ddylai ei ddarparu, a sut dylid ei gyfrifo – a ddylai fod yn gysylltiedig â fformwla?  Sut dylai hyn gael ei ategu gan gyllid sy’n cael ei godi gan S4C?

5.        Mae cyllid S4C, fel y nodir gan y Pwyllgor yn ei adroddiad diweddar ‘Y Darlun Mawr’, wedi gweldnewidiadau dramatig, gan ddechrau gyda’r penderfyniad yn 2010 y byddai’r rhan fwyaf o’i chyllid yn dod o Ffi’r Drwydded Deledu, gyda’r gweddill yn dod drwy grant y DCMS yn ogystal â refeniw masnachol S4C (sef tua 2% o’i holl incwm).  Ers 2010, cafwyd toriadau pellach, o ganlyniad i ostyngiadau yn incwm Ffi’r Drwydded Deledu, a hefyd toriadau pellach yn sgil gostyngiadau yng nghyllid y DCMS ar ôl adolygiadau gwariant y Llywodraeth. Mae Rondo yn cytuno gyda datganiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: ‘Rydym yn poeni’n fawr am yr effaith ddifrifol y mae’r toriadau parhaus i gyllideb S4C ers 2010 wedi’i chael’[1]. Mae sicrhau cyllid cynaliadwy hir-dymor yn hanfodol i ddyfodol S4C a’i gallu i ddatblygu ymhellach ac i fod yn gydnaws â chwaeth a disgwyliadau’r gynulleidfa. Bydd unrhyw doriadau pellach yn gwneud y gwasanaeth presennol yn anghynaliadwy ac yn cyfyngu’n sylweddol ar uchelgais y sianel i ehangu’r ddarpariaeth.

6.        Wrth geisio bod mor effeithlon â phosibl, mae angen i’r sector annibynnol allu cynllunio ymlaen llaw ac ennill comisiynau ar gyllidebau sy’n caniatáu S4C i ddarlledu amrywiaeth o gynnwys o ansawdd uchel, yn enwedig yn ystod amserlen yr oriau brig, sy’n hynod o gystadleuol.  Mae’r cyllidebau hyn yn fwyfwy heriol gyda chost fesul awr S4C yn £10,802 ar gyfartaledd, a’r amserlen bresennol yn cynnwys 57% o raglenni sydd wedi’u hail-ddarlledu. Mae ein sector wedi gweithio’n galed ac yn effeithlon i leihau costau, ond mae pen draw i ba mor bell y gellir lleihau cyllidebau. Nododd Ofcom yn ei adolygiad diwethaf ar Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus y DU: ‘mae galw am staff cynhyrchu a chostau stiwdio bellach yn cynyddu, ac mae arbedion - o ran cynhyrchu’r un rhaglen gyda chriwiau llai a llai o ddiwrnodau ffilmio - wedi’u cyflawni i raddau helaeth.[2]

7.        Mae’r her yn arbennig o wir wrth gynhyrchu’r genre fwyaf costus - drama. Cost fesul awr dramâu S4C yn 2015/16 oedd £150,300 o’i gymharu â £188,600 yn 2011. Mae disgwyliadau’r gynulleidfa o ran drama yn aruthrol, a gall cyfres unigol ar Netflix ddenu’r un gyllideb â chyfanswm gwariant blynyddol S4C ar gynnwys.

8.        O ystyried eu cyllidebau isel, ni all dramâu Cymraeg fanteisio ar y credydau treth teledu ym mhen ucha’r farchnad.  Mae cynnydd mewn cynyrchiadau drama rhwydwaith mawr a dramâu rhyngwladol yn cael effaith economaidd sylweddol yng Nghymru, ond mae’n dueddol o wyrdroi’r farchnad rhywfaint a chynyddu cyfraddau staff llawrydd.

9.        Mae’n hanfodol bod S4C yn gallu cyrraedd cynulleidfaoedd ar draws bob llwyfan. Mae hynny’n arbennig o bwysig o ran gwylwyr iau sy’n troi at gynnwys ar ddyfeisiau eraill yn amlach na pheidio. Mae cwmnïau yng Nghymru mewn sefyllfa i helpu S4C ddod yn fwy gweledol ar draws mwy o lwyfannau. Er enghraifft, mae Galactig[3], is-gwmni digidol Rondo, eisoes wedi cynhyrchu nifer o brosiectau digidol addysgol a darlledu.

10.     Croesawodd Rondo y penderfyniad i ail-agor gallu S4C i ddarlledu mewn HD mewn pryd i weld tîm pêl-droed Cymru yn chwarae cystal ym Mhencampwriaethau Ewrop. Byddai’n gam yn ôl i S4C symud unwaith eto oddi wrth ddarlledu mewn HD oherwydd cyfyngiadau ariannol.

11.     O ran beth ddylai cyllid cynaliadwy fod, rydym yn teimlo bod modd gweithio gyda model cyllido Ffi’r Drwydded Deledu, ar yr amod bod y cyllid yn cael ei wahanu’n gyfan gwbl oddi wrth y BBC a bod annibyniaeth weithredol a golygyddol S4C yn parhau.

12.     Rydym yn nodi llythyr Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC Rona Fairhead at Gadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones ar 7fed Medi 2016, sy’n cynnig swm sefydlog o gyllid ar gyfer cyfnod cytundeb ffi’r drwydded tan 2021/22:

Rwy'n ystyried mai dyma'r peth iawn i'w wneud i gydnabod y rôl bwysig sydd gan S4C ym mywyd siaradwyr Cymraeg sy'n talu ffi'r drwydded, ac fel sylfaen gadarn i Awdurdod S4C a Bwrdd newydd y BBC gydweithio yn unol â hi, a chynnal y berthynas hynod gadarnhaol y mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi'i mwynhau gyda chi a'ch cydweithwyr."

13.     Croesawyd hyn yn amlwg, fodd bynnag, byddem yn dadlau y dylid ehangu hynny i gyd-fynd â chyfnod presennol y siartr, sy’n para tan ddiwedd 2027. Mae’r £74.5m o gyllid blynyddol cynaliadwy yn hanfodol i sefydlogrwydd ariannol S4C.

14.     O ran cyfraniad Llywodraeth y DU o’r DCMS, mae angen ail-archwilio hynny yng ngoleuni buddsoddiadau eraill y Llywodraeth yn y diwydiannau creadigol.  Mae’r Llywodraeth wedi creu sawl toriad treth ar gyfer sectorau fel gemau, theatr byw, a hefyd ar gyfer dramâu ac animeiddio ym mhen ucha’r farchnad. Serch hynny, mae angen nodi, oherwydd bod cyllidebau S4C yn llawer is, nid yw mewn sefyllfa i fanteisio ar gredyd treth pen ucha’r farchnad yn yr un ffordd â rhai o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill y DU.

15.     Mae’n gwneud synnwyr yn economaidd i fuddsoddi mewn darlledwyr cyhoeddus, sydd yn eu tro, yn buddsoddi yn economi greadigol y DU.  Mae rôl S4C fel sbardun economaidd yn cael ei ddangos gan y ffaith ei bod yn creu £2.09 am bob £1 mae’n ei gwario[4]. Yn llythrennol, gall Llywodraeth y DU ddyblu gwerth ei arian pe byddai’n buddsoddi mwy yn S4C.

16.     Rydym felly o’r farn y dylai Llywodraeth y DU gymryd y cam positif o gynyddu cyllid S4C.  Rydym yn cefnogi cynnig TAC am un cynnydd o 10% yng nghyfanswm lefel incwm cyhoeddus S4C, y mae’n rhaid ei gysylltu â chwyddiant, ar y cyd ag arian S4C o Ffi’r Drwydded Deledu.  Rydym hefyd yn cefnogi awgrym TAC y dylai’r rhan o Ffi’r Drwydded Deledu sy’n mynd i S4C gael ei ddiogelu, fel na all gael ei effeithio gan unrhyw rwymedigaethau pellach sy’n wynebu’r BBC.  Mae parhau i dderbyn cyllid o sawl ffynhonnell yn hanfodol i S4C - i fod yn sail i annibyniaeth y sianel ac iddi beidio â bod yn gwbl ddibynnol ar un ffynhonnell o gyllid drwy Ffi’r Drwydded Deledu.

17.     Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ymgynghori ar gronfa gystadlu beilot ar gyfer cynnwys gwasanaeth cyhoeddus.  Gallai hyn roi hwb i genres sy’n cael eu tangynrychioli ac o fudd i S4C o ran rhaglenni cerddoriaeth/ celfyddydau/ plant. Gallai rhywfaint o’r arian hwnnw gael ei ddiogelu ar gyfer cynyrchiadau Cymraeg a chynnwys o’r Cenhedloedd. Serch hynny, ni ddylai hyn gymryd lle’r angen am lefel o gyllid cyhoeddus sy’n uwch ac yn fwy diogel ar gyfer S4C.

18.     Yn yr un modd, er ein bod yn croesawu’r cynnydd diweddar yng nghyllidebau’r BBC ar gyfer rhaglenni Saesneg yng Nghymru – cynnydd yr oedd mawr ei angen – (£8.5m y flwyddyn o gyllid newydd erbyn 2019/20), ni ddylid edrych ar hynny fel rhywbeth sy’n gwneud iawn am unrhyw ostyngiad yng nghyllid S4C.

19.     Mae angen cyllid ychwanegol ar S4C i’w pharatoi ar gyfer y genhedlaeth Netflix ac Amazon Prime. Mae angen yr adnoddau arni i greu argraff ddigonol ar y llwyfannau hyn ac i wneud camau go iawn i gomisiynu cynnwys newydd ar gyfer llwyfannau aflinol (non-linear) y tu hwnt i’w gwasanaeth craidd.

Beth ddylai cylch gorchwyl statudol S4C fod? A yw ei chylch gorchwyl presennol yn addas ar gyfer darlledwr cyfoes, ac os nad yw, sut ddylai newid? Sut ddylai adlewyrchu rôl ddigidol darlledwr modern?

20.     Mae Rondo yn cynhyrchu cynnwys Cymraeg mewn sawl genre, ac o’r farn eu bod yn fathau dilys o raglenni ar gyfer S4C. Gydag un sianel deledu Gymraeg yn unig, mae’n hanfodol bod cynulleidfaoedd yn gallu cael amrywiaeth eang o ddeunydd yn yr iaith honno. Yn y broses o ail-archwilio cylch gorchwyl S4C, byddem yn bendant o’r farn y dylai barhau i ddarparu amrywiaeth eang o gynnwys.

21.     Mae’r cylch gorchwyl presennol (fel y diffinnir yn adran 204 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003) yn rhy gyfyng a hen ffasiwn.  Nid yw’n ystyried nac yn adlewyrchu’n gywir y tirlun cyfryngol sy’n newid mor gyflym a’r ffordd y mae cynulleidfaoedd yn troi at gynnwys.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd nodedig yn nifer y gwylwyr ar draws y DU yn ogystal â chynnwys sy’n cael ei wylio ar-lein. Mae angen ehangu brand S4C i lwyfannau eraill a dylai fod yn gallu comisiynu cynnwys digidol aflinol (non-linear) y tu hwnt i brif sianel draddodiadol S4C. (O gymharu, mae gan Channel 4 15 is-frand a gwasanaethau cysylltiedig).

22.     Wrth i gwmnïau cynhyrchu eraill amlygu eu hunain ym marchnad y DU, gyda BBC Studios ymhlith y mwyaf amlwg, hoffem weld ymrwymiad cliriach yng nghylch gorchwyl S4C i’r berthynas gyflenwi gyda chwmnïau cynhyrchu annibynnol. Mae hyn yn bwysig er mwyn i S4C barhau i gynnig amrywiaeth greadigol a thwf economaidd i bob rhan o Gymru.

23.     Dylai cylch gorchwyl S4C ei gwneud yn glir, tu hwnt i’r 10 awr statudol a ddarperir yn wythnosol gan BBC Cymru, y dylai ei holl gynnwys gael ei gomisiynu o’r sector annibynnol, ac y dylid cadw’r model cyhoeddwr-darlledwr presennol.  Mae S4C wedi bod yn sbardun allweddol ar gyfer twf y sector annibynnol yng Nghymru ers sefydlu’r sianel yn 1982.  Hoffem weld ymrwymiad cliriach i’r berthynas gyflenwi hon gyda chwmnïau cynhyrchu annibynnol. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gall rôl S4C fel sbardun i’r sector ledled Cymru barhau i ddod ag amrywiaeth greadigol a thwf economaidd i bob rhan o’r wlad.

24.     Er enghraifft, dathlodd cyfres ddrama Rondo Rownd a Rownd ei phen-blwydd yn un ar hugain yn ystod 2016. Wedi’i chynhyrchu ym Mhorthaethwy, mae wedi dod â chyfleoedd gwaith sylweddol i’r rhanbarth, ac yn parhau i feithrin talent actio, ysgrifennu a thechnegol newydd. Mae cael cynhyrchiad rheolaidd wedi ein galluogi i fuddsoddi a thyfu fel cwmni cynhyrchu - o ran staff a buddsoddiadau allweddol mewn datblygu a thechnoleg. Mae’r gyfres yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol ac wedi helpu i ddatblygu’r diwydiannau creadigol yng Ngogledd Cymru, gan ddatblygu talent greadigol, technegol a gweinyddol.

25.     Mae’r berthynas gyda’r gynulleidfa yn ganolog i gylch gorchwyl S4C. Mae adroddiad blynyddol diweddaraf S4C yn nodi y cafwyd 629,000 o wylwyr ledled y DU mewn wythnos arferol - y nifer uchaf ers 9 mlynedd - ac mae hynny’n ystadegyn calonogol.

26.     Mae cyfyngiadau wrth ddibynnu ar un set o ffigyrau gwylio (sy’n cael eu cyflenwi gan BARB ar hyn o bryd) - oherwydd maint bach y sampl, anghysondeb mewn patrymau gwylio a diffyg sesiynau mesur gwylwyr ar wasanaethau gwylio eto ac ar-lein.

27.     Yn ogystal, mae gan S4C swyddogaeth darlledwr gwasanaeth cyhoeddus - nid lleiaf yn achos S4C i wasanaethu cynulleidfa iaith leiafrifol a darlledu cynnwys a genres sydd ddim mor amlwg ar sianeli masnachol eraill - er enghraifft rhaglenni plant, celfyddydau a cherddoriaeth.

Pa strwythurau llywodraethiant ac atebolrwydd dylai S4C eu cael? Er enghraifft, a ddylai’r cyfrifoldeb am S4C gael ei ddatganoli i Gymru?

28.     O’n profiad ni o Awdurdod S4C, gyda rhywfaint o fân newidiadau, gall barhau i gael trosolwg defnyddiol o S4C, gydag Ofcom hefyd o bosib yn cael rôl gyffredinol mewn meysydd fel telerau masnachu, safonau cynnwys ac ati.

29.     O ran datganoli’r cyfrifoldeb am S4C i Gymru, nid yw darlledu’n faes sydd wedi’i ddatganoli. Mae prif ffrwd ariannu S4C bellach yn dod o ffi’r drwydded y DU.  Mae datganoli un darlledwr yn rhannol yng Nghymru yn annhebygol o fod yn effeithiol.  Mae’r BBC yn cryfhau ei gwariant yng Nghymru, ond byddai gadael i’r BBC gael monopoli ar ddarparu cynnwys ar gyfer y Cenhedloedd yn annoeth. Mae Rondo, er enghraifft, hefyd yn croesawu ymrwymiad cynyddol Channel 4 i gomisiynu cynnwys o’r Cenhedloedd.  O ran lluosogrwydd yng Nghymru, mae’n hanfodol bod S4C ac ITV Cymru hefyd yn parhau i gomisiynu a darlledu cynnwys Cymreig.

30.     Yn sicr, dylai Llywodraeth Cymru gynnal perthynas gref gyda S4C, ac y dylai’r darlledwr gael elfen o atebolrwydd i Lywodraeth Cymru: bod Cadeirydd S4C a’r Prif Weithredwr yn ymddangos gerbron y pwyllgorau perthnasol, bod adroddiad blynyddol S4C yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac i’r Llywodraeth honno gael rôl wrth benodi swyddogion anweithredol ac aelodau’r Awdurdod.

31.     Drwy gronfa gyd-gynhyrchu newydd posib, gallai Llywodraeth Cymru hefyd alluogi mwy o gynyrchiadau rhyngwladol a denu buddsoddiad i Gymru o ystod ehangach o ddarlledwyr a chwmnïau rhyngwladol. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cefnogi busnesau rhyngwladol mawr fel Pinewood Studios ac wedi darparu buddsoddiad ar gyfer cwmnïau cynhyrchu newydd fel Bad Wolf. Gallai Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â S4C, sefydlu menter ryngwladol newydd i hyrwyddo ac annog cwmnïau cynhyrchu i edrych y tu hwnt i Gymru am gyllido a dosbarthu cynnwys.

Sut berthynas ddylai S4C ei chael gyda’r BBC?

32.     Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi’r bartneriaeth rhwng S4C a’r BBC sydd wedi arwain at arbedion mewn costau trosglwyddo yn ogystal â S4C yn elwa o fod ar yr iPlayer. O ran y Cytundeb Gweithredol rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac S4C, mae wedi’i weithredu a’i reoli’n effeithiol gan fwyaf. Fodd bynnag, mae’n werth nodi bod y cytundeb hwn ond yn ddilys rhwng 1 Ebrill 2013 a 31 Mawrth 2017 ac fel mae’r Pwyllgor yn gwybod, mae camau yn cael eu cymryd i gael cytundeb rhwng S4C a’r BBC i sicrhau bod arian Ffi’r Drwydded Deledu yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaeth penodol, fel y nodwyd.

33.     Gyda pherthynas hyd braich Ymddiriedolaeth y BBC yn dod i ben, mae angen eglurder ynglŷn â sut bydd y cytundeb gweithredol newydd rhwng y ddau ddarlledwr yn gweithio. Nid ydym yn gyfforddus bod gan Weithrediaeth y BBC na’r Bwrdd Unedol newydd unrhyw bŵer a dylanwad dros S4C. Byddai’n well gennym pe byddai gwahanu clir o arian Ffi’r Drwydded Deledu sy’n mynd i S4C oddi wrth y BBC.

34.     Ar wahân i’r materion ynglyn â rheoli’r broses gyllido, byddai Rondo yn cytuno â’r Pwyllgor bod y berthynas BBC-S4C yn gryfach oherwydd bod ‘cydberthynas gydweithredol sydd o fudd i’r ddwy ochr, yn greadigol ac o ran defnyddio adnoddau’[5].  Mae partneriaeth ehangach S4C gyda’r BBC wedi arbed rhywfaint o gostau a gallu S4C i fod ar yr iPlayer, sy’n hynod o boblogaidd. Gyda chynnydd yn nifer y bobl sy’n gwylio ar lwyfan ar-lein S4C, ac eraill yn gwylio ar lwyfannau fel YouTube a mannau eraill, mae gwylio ar-lein wedi cynyddu’n ddramatig yn ystod y 18 mis diwethaf, gan alluogi’r rheini tu allan i Gymru, yn siaradwyr Cymraeg neu’n ddi-Gymraeg, i droi at gynnwys S4C.

35.     Mae BBC Studios - endid masnachol newydd y BBC - yn rhoi rhywfaint o sialens yn y cyd-destun hwn. Mae Ymddiriedolaeth y BBC bellach wedi cymeradwyo’r endid yn ffurfiol.  Mae’r opera sebon ddyddiol Pobol y Cwm eisoes wedi trosglwyddo i BBC Studios. Yn ôl y bwriad, bydd holl raglenni’r BBC (ar wahân i newyddion a materion cyfoes sy’n gysylltiedig â newyddion) ar agor i gystadleuaeth yn ystod yr 11 mlynedd nesaf. Byddai hyn, trwy oblygiad, yn cynnwys y gyfres ddrama Pobol y Cwm. Ond mae’r gyfres hon hefyd yn rhan sylweddol o’r oriau statudol presennol sy’n cael eu darparu gan BBC Cymru i S4C. Mae angen mwy o eglurder i sefydlu’r ddarpariaeth statudol gyfredol gan BBC Cymru ar gyfer S4C, a lle bydd Pobol y Cwm a chynnwys eraill y tu allan i newyddion yn perthyn.

36.     Wrth gyhoeddi’r bwriad i benodi comisiynydd drama newydd ar gyfer BBC Cymru, dylid cael mwy o gyfleoedd i archwilio cynyrchiadau cefn-wrth-gefn - ond nid ar draul neu drwy beryglu cyllideb S4C drwy sybsideiddio cynyrchiadau drama Saesneg.

Amlygrwydd S4C: ymdrin â materion fel amlygrwydd S4C ar y canllaw rhaglenni electronig (EPG) a setiau teledu clyfar.

37.     Mewn byd lle mae mwy a mwy o sianeli teledu, dylai’r sianeli hynny yr ystyrir eu bod yn darparu gwasanaeth cyhoeddus, ac yn achos S4C, sydd o fudd i iaith a diwylliant lleiafrifol, gael amlygrwydd dyledus ar yr EPG a thu hwnt. Mae Rondo yn cytuno’n llwyr ag argymhelliad adroddiad diweddar y Pwyllgor ‘Y Darlun Mawr’ i ofyn i Lywodraeth y DU ac Ofcom i sicrhau mwy o amlygrwydd.

38.     Rydym hefyd yn gweld parhad S4C fel sianel deledu ddaearol yn bwysig dros ben. Mae cryfhau mynediad i gynulleidfaoedd ar lwyfannau eraill yn bwysig, ond y gwir amdani yw bod gwylio’r teledu yn fyw dal yn parhau’n gryf, ac mae presenoldeb S4C fan hyn yn hanfodol. Mae hynny’n wir oherwydd bod demograffig gwylwyr S4C yn cynnwys pobl hŷn sydd, yn anghymesur, yn fwy tebygol o wylio teledu byw, yn ogystal â’r rheini mewn ardaloedd lle nad oes cymaint o ddewisiadau eraill oherwydd problemau dosbarthu band eang.

RONDO MEDIA  MAWRTH 2017



[1] Y Darlun Mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Chwefror 2017, t22

[2] Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn Oes y Rhyngrwyd: 3ydd Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus. Ofcom, Gorffennaf 2015, t9 para 3.15

[3] www.galactig.com

[4] Adroddiad Blynyddol 2015-16. S4C, 2016, t6

[5] Y Darlun Mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Chwefror 2017, t25